Cymru
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC), a sefydlwyd yn 1999, wedi datblygu ystod eang o bolisïau addysg (wedi’u crynhoi yn Y Wlad sy’n Dysgu ac Y Wlad sy’n Dysgu: Gweledigaeth ar Waith) sydd yn creu cyfundrefn addysg wahanol mewn sawl ffordd i’r system yn Lloegr. Mae’r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS) yn gyfrifol am weithredu’r weledigaeth hon ac mae hyn yn cynnwys datblygu polisi ar sail tystiolaeth. Er bod sefydliadau eraill, megis y Sefydliad Materion Cymreig ac awdurdodau lleol unigol, yn comisiynu ac yn defnyddio ymchwil addysg, heb os LlCC sy’n comisiynu ac yn gwneud y defnydd mwyaf o’r ymchwil hwnnw yng Nghymru. Yn ddiweddar mae wedi creu porthol ymchwil a dadansoddi rhyngweithiol i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â phawb sydd â diddordeb mewn addysg a sgiliau yng Nghymru.
Ar ran LlCC, mae Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn gweinyddu rhaglen datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) â ffocws unigol sy’n galluogi rhyw 4,500 o athrawon y flwyddyn i ymgymryd â datblygiad proffesiynol yn cynnwys ymchwil gan ymarferwyr. Bu’r rhaglen yn destun cyfres o adroddiadau gan y corff arolygu addysg, Estyn.
Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn cefnogi addysg uwch yng Nghymru ac yn gweithio gyda’r sector i hybu addysgu a dysgu o safon. Rhan o’r weledigaeth hon yw ‘hybu sylfaen ymchwil rymus a chynaliadwy yng Nghymru’. Defnyddir cyllid yn seiliedig ar fformiwla a chyllid ar gyfer mentrau i gefnogi’r nod hon.
Fodd bynnag mae ymchwil addysg yng Nghymru at ei gilydd ar drai ac mae hyn wedi’i nodi’n fanwl yn Adroddiad Cymru ar gyfer Fforwm 1 y Fforwm Strategol ar gyfer Ymchwil mewn Addysg (SFRE). Mae canlyniadau’r RAE yn ddiweddar o ran addysg mewn sefydliadau yng Nghymru wedi cadarnhau’r duedd hon ac mae’n debygol o gyfrannu ymhellach at wahaniaethu cynyddol rhwng sefydliadau ymchwil yn bennaf a sefydliadau addysgu yn bennaf.
Mae gan Brifysgol Caerdydd Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol ffyniannus sydd ag arbenigedd helaeth mewn addysg a dysgu gydol oes. Mae ei chryfderau arbennig yn cynnwys: addysg, sgiliau a’r farchnad lafur; polisi, datganoli a rheolaeth addysg; addysg, anghydraddoldeb a lles cymdeithasol; addysg a hunaniaeth; a dimensiynau seico-gymdeithasol addysg. Mae ganddi hefyd brofiad sylweddol o feithrin gallu ymchwil mewn addysg ac arloesi mewn dulliau ymchwil.
Ar wahân i Gaerdydd, dim ond pocedi o arbenigedd ymchwil a geir yn y deg sefydliad addysg uwch arall yng Nghymru sydd ag adrannau addysg a phynciau cysylltiedig. Mae’r rhain yn cynnwys dwyieithrwydd, addysg blynyddoedd cynnar a TGCh.
Fel yr argymhellwyd yn yr Adolygiad o’r Ddarpariaeth Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yng Nghymru (Furlong et al., 2006) mae addysg athrawon yn mynd trwy broses o ad-drefnu. Rhagwelir, yn dilyn peth ail-gyflunio ymhlith y darparwyr presennol, y bydd tair canolfan addysg athrawon ranbarthol yng Ngogledd/ Canolbarth Cymru, De Orllewin Cymru a De Ddwyrain Cymru. Mae Furlong et al. (Furlong et al., 2006; Furlong et al., 2007) wedi argymell y dylai pob un o’r canolfannau hyn ddatblygu diwylliant ymchwil fel elfen greiddiol.
Mae nifer o fentrau diweddar wedi cyfrannu at ddatblygu gallu ymchwil addysg yng Nghymru. Yn 2004 gwnaeth y Rhaglen Ymchwil Addysgu a Dysgu (TLRP) hwyluso buddsoddiad cyllido gan yr ESRC a LlCC i gefnogi pedwar prosiect ymchwil yng Nghymru, a chwblhawyd y pedwar ohonynt yn llwyddiannus erbyn 2008. Gwnaeth cyfranogiad ymchwilwyr o Gymru o fewn rhaglen y TLRP gyfrannu at gychwyn rhwydwaith meithrin gallu dros Gymru gyfan. Mae Rhwydwaith Ymchwil Addysg Cymru (RhYAC) wedi’i ariannu fel cynllun peilot gan CCAUC a’r ESRC ac mae’n seiliedig ar gydweithrediad rhwng holl SAU Cymru sydd ag adrannau addysg a phynciau cysylltiedig. Ei nod yw meithrin gallu trwy gefnogi grwpiau o ymchwilwyr o wahanol sefydliadau i weithio ar y cyd, a thrwy wneud hynny ddatblygu sgiliau ymchwil gyda’i gilydd. Ar ddiwedd ei flwyddyn gyntaf (2007-8) barnodd gwerthusiad allanol ei fod yn llwyddiannus ac ar hyn o bryd mae’r cyllid wedi cael ei ymestyn tan Orffennaf 2009.
Yn ychwanegol at y sector AU, mae Uned Gymreig y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg – Uned Gymreig y SCYA – hefyd yn ymgymryd ag ymchwil addysg a ariennir yng Nghymru ynghyd ag ymgynghoriaethau ymchwil i’r sector preifat.
Yn ddiweddar mae APADGOS wedi comisiynu adroddiad, sydd heb ei gyhoeddi eto, ar ei arferion caffael ymchwil; mae’r briff hefyd yn cynnwys archwiliad o oblygiadau arferion caffael ar gyfer meithrin galluoedd.
Mae’r SFRE wedi ysgogi mwy o ddeialog rhwng APADGOS a’r sector AU. Gan weithio dan nawdd RhYAC, ond wedi’u noddi gan APADGOS, cynhaliwyd dau gyfarfod ers Fforwm I i drafod materion ymchwil addysg a meithrin galluoedd.
Diweddarwyd ddiwethaf Mawrth 2009
Comments Off



